Henri Barbusse

Nofelydd a bardd yn yr iaith Ffrangeg o Ffrainc oedd Henri Barbusse (17 Mai 187330 Awst 1935) sy'n nodedig am ei nofel ''Le Feu'' (1916) sy'n ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Ganwyd yn Asnières-sur-Seine, ger Paris. Cychwynnod ar ei yrfa lenyddol gyda'r gyfrol o farddoniaeth newydd-Symbolaidd, ''Pleureuses'' (1895). Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, ''Les Suppliants'', yn 1903, a'r nofel newydd-Naturiolaidd ''L'Enfer'' yn 1908. Ymunodd â Byddin Ffrainc yn 1914 a gwasanaethodd yn droedfilwr ar Ffrynt y Gorllewin.

Wedi'r rhyfel, trodd Barbusse yn heddychwr ac yna'n gomiwnydd milwriaethus. Symudodd i'r Undeb Sofietaidd ac ysgrifennodd ''Staline'' (1935), bywgraffiad am Joseff Stalin. Bu farw ym Moscfa yn 62 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Barbusse, Henri', amser ymholiad: 0.10e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Barbusse, Henri
    Cyhoeddwyd 1987
    Rhif Galw: H 910 Barbusse
    Llyfr
  2. 2
    gan Barbusse, Henri
    Cyhoeddwyd 1986
    Rhif Galw: R 110
    Llyfr
  3. 3
    gan Barbusse, Henri
    Cyhoeddwyd 1957
    Rhif Galw: R 110-m
    Llyfr