Bruce Chatwin

Nofelydd ac awdur llyfrau taith o Loegr oedd Charles Bruce Chatwin (13 Mai 1940 - 18 Ionawr 1989).

Ganed Chatwin yn Sheffield, a threuliodd ei ieuenctid yn West Heath, ger Birmingham. Addysgwyd ef yng Ngholeg Marlborough. Bu'n gweithio i gwmni Sotheby's am gyfnod, cyn ymddiswyddo i astudio archaeloeg ym Mhrifysgol Caeredin. Gadawodd y brifsgol heb gymeryd gradd.

Teithiodd i Batagonia yn niwedd 1974, a threuliodd chwe mis yno, yn cynnwys ymweliad a'r Wladfa. Cyhoeddodd lyfr taith ''In Patagonia'' yn 1977. Enillodd Wobr Goffa James Tait am ei nofel ''On the Black Hill'' (1982), hanes dau frawd, Lewis a Benjamin Jones, oedd yn ffermio ar y Mynydd Du. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Chatwin, Bruce', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Chatwin, Bruce
    Cyhoeddwyd 2003
    Rhif Galw: R 110
    Llyfr
  2. 2
    gan Chatwin, Bruce
    Cyhoeddwyd 1990
    Rhif Galw: R 110-m
    Llyfr