Friedrich Engels
Athronydd a sosialydd o'r Almaen oedd Friedrich Engels (28 Tachwedd 1820 – 5 Awst 1895). Cyd-ysgrifennodd ''Y Maniffesto Comiwnyddol'' (1848) gyda Karl Marx.Ganwyd yn Barmen, talaith y Rhein, ym Mhrwsia. Cychwynnodd ar yrfa fusnes yn Bremen, ac yn ei amser hamdden fe fagodd ddiddordeb yng ngweithiau'r "Almaenwyr Ifainc" (gan gynnwys Ludwig Börne, Karl Gutzkow, a Heinrich Heine) ac, yn ddiweddarach, yr "Hegeliaid Ifainc" (megis Bruno Bauer a Max Stirner). Trodd Engels yn anffyddiwr ac yn chwyldroadwr yn athroniaeth y dilechdid Hegelaidd, a chyhoeddodd erthyglau dan yr enw Friedrich Oswald. Gwasanaethodd am un flwyddyn mewn catrawd fagnelau ym Merlin, ac yno fe fynychodd ddarlithoedd yn y brifysgol.
Gadawodd y fyddin ym 1842. Bu'n cwrdd â Moses Hess, a chafodd Engels ei berswadio ganddo i droi'n gomiwnydd a symud i Loegr. Treuliodd ei ddyddiau ym Manceinion yn y swyddfa fusnes, a'i nosweithiau yn y llyfrgell yn ymchwilio i'r amodau economaidd a gwleidyddol yn Lloegr. Cyfranodd erthyglau i gylchgronau yn Lloegr ac ar y cyfandir, gan gynnwys y ''Deutsch-Französische Jahrbücher'' dan olygyddiaeth Karl Marx ym Mharis. Cafodd berthynas glos â'r Wyddeles Mary Burns, er na phriodasant. Yn sgil ei marwolaeth ym 1863, cafodd berthynas â'i chwaer Lizzy Burns, a phriodasant ym 1878 ychydig oriau cyn ei marwolaeth hi.
Dychwelodd Engels i Bremen a chyhoeddodd ei lyfr ''Die Lage der arbeitenden Klasse in England'' (1845). Cafodd gyfarfodydd â Marx ym Mharis, Brwsel, ac yn Lloegr. Roedd Engels yn un o sefydlwyr y Gynghrair Gomiwnyddol yn Llundain ym 1847.
Wedi marwolaeth Marx ym 1883, Engels a gyflawnodd y gwaith o olygu a chyhoeddi'r ail gyfrol a'r drydedd gyfrol o ''Das Kapital'' (1885, 1894). Bu farw Engels o ganser yn 74 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16Rhif Galw: E 341-WeiLlyfr
-
17Rhif Galw: F 211-mLlyfr
-
18
-
19Rhif Galw: K 000-mLlyfr
-
20Rhif Galw: K 000-mLlyfr