August Wilhelm Schlegel
Ysgolhaig, beirniad llenyddol a theatr, bardd, a chyfieithydd o'r Almaen oedd August Wilhelm Schlegel (8 Medi 1767 – 12 Mai 1845).Ganed ef yn Hannover, Etholyddiaeth Hannover, a oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Astudiodd yn Göttingen, a gyda'i frawd Friedrich Schlegel golygydd ''Das Athenäum'' (1798–1800), prif gyfnodolyn y mudiad Rhamantaidd Almaenig a fu'n cyhoeddi gwaith Novalis ac eraill.
Bu August Wilhelm Schlegel yn enwog yn bennaf am ei gyfieithiadau barddonol o ddramâu William Shakespeare, ar y cyd â Ludwig Tieck ac eraill, ac am ei gyfres o ddarlithoedd ''Über dramatische Kunst und Literatur'' (1809–11), y rheiny a droswyd i'r Saesneg (''Lectures on Dramatic Art and Literature'', 1815) gan John Black ac a gâi gymaint o ddylanwad ar y bardd William Wordsworth a'r beirniad William Hazlitt. Tynnodd Samuel Taylor Coleridge ar syniadau a rhannau o waith Schlegel, heb gydnabyddiaeth, yn ei gyfres o ddarlithoedd ym 1811.
Bu farw August Wilhelm Schlegel yn Bonn, Teyrnas Prwsia, yn 77 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1gan Boccaccio, GiovanniAwduron Eraill: “...Schlegel, August Wilhelm...”
Cyhoeddwyd 1984
Rhif Galw: R 110-WeiLlyfr -
2gan Shakespeare, WilliamAwduron Eraill: “...Schlegel, August Wilhelm...”
Cyhoeddwyd 1983
Rhif Galw: R 310Llyfr -
3gan Shakespeare, WilliamAwduron Eraill: “...Schlegel, August Wilhelm...”
Cyhoeddwyd 1988
Rhif Galw: R 310-mLlyfr -
4gan Shakespeare, WilliamAwduron Eraill: “...Schlegel, August Wilhelm...”
Cyhoeddwyd 1987
Rhif Galw: R 310Llyfr