Nelson Mandela

Nelson Rolihlahla Mandela (18 Gorffennaf 19185 Rhagfyr 2013), oedd Arlywydd cyntaf De Affrica 19941999 i gael ei ethol mewn etholiadau cwbl gynrychiadol democrataidd. Cyn ei arlywyddiaeth, roedd Mandela yn ymgyrchydd gwrth-apartheid ac ef oedd arweinydd y Gynghrair Affricanaidd Cenedlaethol (ANC) a'i adain arfog sef yr Umkhonto we Sizwe. Cafodd ei ddyfarnu'n euog o droseddau a gyflawnwyd pan arweiniai ef y frwydr yn erbyn apartheid. Am ei ran yn y troseddau hyn, treuliodd 27 mlynedd yn y carchar gyda nifer helaeth o'r blynyddoedd hyn wedi'u treulio ar Ynys Robben.

Yn Ne Affrica ac yn rhyngwladol, daeth Mandela yn symbol o ryddid a chyfiawnder yn sgîl ei wrthwynebiad i apartheid, tra bod y llywodraeth apartheid a gwledydd a oedd yn cefnogi'r system hwn yn condemnio Mandela ac yn ei alw ef a'i gefnogwyr yn gomiwnyddion ac yn derfysgwyr. Ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar ar yr 11eg o Chwefror, 1990, arweiniodd ei gefnogaeth o drafodaeth at ddemocratiaeth aml-hîl yn Ne Affrica. Ers diwedd apartheid, mae Mandela wedi derbyn canmoliaeth fawr gan ei gyn-wrthwynebwyr hyd yn oed.

Derbyniodd Mandela dros gant o wobrau gwahanol dros bedwar degawd, gan gynnwys Gwobr Nobel am Heddwch ym 1993 a Gwobr Sakharov yn 1988. Ystyriwyd Mandela yn ystod ei flynyddoedd olaf fel un a oedd yn parhau i leisio'i farn am faterion cyfoes. Yn aml yn Ne Affrica, galwyd ef yn "Madiba", teitl anrhydeddus a fabwysiadwyd gan gyn-deidiau Mandela. Mae'r teitl bellach yn gyfystyr ag enw Nelson Mandela. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 2 canlyniadau o 2 ar gyfer chwilio 'Mandela, Nelson', amser ymholiad: 0.03e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
    gan Mandela, Nelson
    Cyhoeddwyd 1998
    Rhif Galw: D 910 Mandela
    Llyfr