Juli Zeh
| dateformat = dmy}}Awdures Almaenig yw Juli Zeh (ganwyd 30 Mehefin 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithegydd, bardd-gyfreithiwr ac awdur ffuglen wyddonol.
Ei llyfr cyntaf oedd ''Adler und Engel'' ('Eryr ac Angylion') a gyfieithwyd i'r Saesneg gan Anglais Slenczka, ac a enillodd Wobr Llyfr yr Almaen yn 2002 am y nofel gyntaf orau. Teithiodd Juli Zeh drwy Bosnia-Herzegovina yn 2001, taith a ddaeth yn sail i'r llyfr ''Die Stille ist ein Geräusch'' ('Sŵn yw'r Distawrwydd'). Ymhlith ei llyfrau eraill mae ''Das Land der Menschen'', ''Schilf'', ''Alles auf dem Rasen'', ''Kleines Konversationslexikon für Haushunde'', ''Spieltrieb'', 'Ein Hund läuft durch die Republik'' a ''Corpus Delicti''.
Bu Zeh yn byw yn Leipzig ers 1995, ac ar hyn o bryd (2019) mae'n byw y tu allan i Berlin. Astudiodd Zeh y gyfraith yn Passau ac yn Leipzig, gan basio Zweites Juristisches Staatsexamen - sy'n gyfwerth â statws bargyfreithiwr yng Nghymru - yn 2003, ac mae ganddi ddoethuriaeth mewn cyfraith ryngwladol gan Brifysgol Saarbrücken. Mae ganddi hefyd radd o'r Deutsches Literaturinstitut Leipzig.
Fe'i ganed yn Bonn ar 30 Mehefin 1974.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Sosialaidd a Democrataidd yr Almaen. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3Rhif Galw: C 200Llyfr
-
4Cyhoeddwyd 2005Awduron Eraill: “...Zeh, Juli...”
Rhif Galw: C 132Llyfr